Blas Cymru / Taste Wales Schools CYM

LLYSIAU O GYMRU AR GYFER YSGOLION

M ae’r cyfeirlyfr hwn yn cynnwys prif linellau gan gyflenwyr Blas Cymru (a gynhaliwyd yn ICC Cymru ym mis Hydref 2025) sydd â chynnyrch sy’n addas i’r sector ysgolion. Ei fwriad yw cefnogi cogyddion ac arlwywyr ysgolion i nodi a chaffael bwyd a diod â tharddiad Cymreig i’w gweini mewn ysgolion. Cafodd y wybodaeth ei chasglu ym mis Gorffennaf 2026 a'i bwriad yw rhoi cyflwyniad i’r cynhyrchion sydd ar gael gan gyflenwyr o Gymru. Dylai arlwywyr fod yn fodlon a gofyn am fanylion llawn y cynnyrch i’w cynnwys ar fwydlenni.

Brace’s Bakery Ltd.....................................................8 Buckley Foods Ltd (Mornflake)............................10 Country Fresh Eggs.................................................12 Edwards Y Cigydd Cymreig...................................14 Ellis Eggs.......................................................................16 Farm Fresh Meats (drwy Castell Howell)..........18 Henllan Bakery.........................................................20 Hilltop Food Group Ltd..........................................22 Hufenfa De Arfon Cyf............................................24 Just Love Food Company.....................................26 Llaeth y Llan Cyf......................................................28 Mario’s Ice Cream...................................................30 Paned Gymreig Adwell Foods Cyf.....................32 Pembrokeshire Creamery....................................34 Popty Bakery Ltd....................................................36 Prima Foods UK Ltd...............................................38 Puffin Produce Limited.........................................40 Radnor Hills................................................................42 Roberts of Port Dinorwic......................................44 The Authentic Curry Company (a Castell Howell).....................................................46 Cynnwys

Beth yw’r gwaith hwn? Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn fenter sy’n sicrhau bod mwy o lysiau organig wedi’u tyfu’n lleol yn cael eu cynnwys mewn prydau ysgolion cynradd ledled Cymru. Wedi’i harwain gan Synnwyr Bwyd Cymru a Lantra Cymru, mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn gweithio gyda dros 20 o dyfwyr; 17 awdurdod lleol a 5 cyfanwerthwr ar draws Cymru. Mae’r fenter yn talu’r gwahaniaeth mewn pris rhwng cynnyrch lleol, organig a phrisiau arferol drwy daliad ychwanegol sy’n gyfeillgar i natur. Mae’r incwm gwarantedig a’r cymorth a gynigir gan y fenter wedi galluogi tyfwyr i ehangu, amrywio eu cnydau a meithrin gwydnwch.

Yn 2022, dim ond 6% o’r llysiau a brynwyd ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru oedd yn dod o Gymru. Erbyn 2030, mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion eisiau i 25% o’r holl lysiau a ddefnyddir mewn prydau ysgolion cynradd yng Nghymru fod yn lleol ac organig.

Gweledigaeth

Buddion Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn: • Darparu llysiau lleol, organig i’w cynnwys mewn prydau ysgol maethlon • Gwella mynediad plant at fwyd iach, lleol • Cefnogi ffermwyr a thyfwyr Cymreig • Cefnogi’r economi leol • Creu cyfleoedd ar gyfer busnesau gwledig • Cryfhau systemau bwyd lleol • Cysylltu plant â lle mae eu bwyd yn dod • Lleihau’r ddibyniaeth ar fewnforion • Lleihau allyriadau carbon • Cefnogi bywyd gwyllt a bioamrywiaeth

Pwy sy’n derbyn y llysiau? Mae’r llysiau’n cael eu defnyddio mewn cannoedd o giniawau ysgol i blant oedran cynradd mewn ysgolion ar draws 17 o ardaloedd Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae hyn yn digwydd yn ystod sesiynau Bwyd a Hwyl a thrwy gydol tymor yr hydref 2026. Mae ysgolion yn derbyn hyd at 15 math o gynnyrch ffres, tymhorol gan gynnwys:

• Moron • Brocoli • Tomatos • Ciwcymbrau • Letys • Winwns / nionod • Afalau

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.synnwyrbwydcymru.org.uk

Mae cam nesaf y prosiect yn cael ei gefnogi drwy gronfeydd preifat, elusennol, a chyhoeddus, gan gynnwys Cronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru 2025/27, sy’n cael ei gweinyddu gan CGGC

2

3

Powered by