Blas Cymru / Taste Wales Schools CYM

Lle mewn diet cytbwys Gall cig coch heb lawer o fraster chwarae rhan werthfawr fel rhan o fwydlenni ysgol amrywiol a chytbwys, gan ddarparu maetholion allweddol gan gynnwys protein a haearn i helpu iechyd a lles plant a phobl ifanc.

CIG OEN CYMRU PGI A CIG EIDION CYMRU PGI

Llawn protein

Helpu i leihau blinder a llesgedd

Cefnogi imiwnedd

Amlbwrpas, ymarferol ac addas ar gyfer disgyblion Mae cig coch Cymru yn parhau i fod yn ddewis

Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i dimau arlwyo greu prydau cytbwys sy’n bodloni gofynion maethol ac yn apelio at ddisgyblion.

Yn cefnogi prydau ysgol sy’n faethlon, yn gytbwys ac yn falch o fod yn Gymreig Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ymhlith cynhyrchion bwyd mwyaf adnabyddus Cymru, wedi’u cynhyrchu gan fusnesau ffermio sy’n helpu i gynnal cymunedau gwledig, cefnogi swyddi lleol a chyfrannu at economi Cymru. I ysgolion, mae dewis cig coch Cymreig yn gyfle i gysylltu disgyblion â bwyd sy’n cael ei gynhyrchu yn agosach at adref wrth gefnogi amaethyddiaeth Cymru a chadwyni cyflenwi lleol. Cefnogi bwyd Cymru ar y plât cyhoeddus Mae prydau ysgol yn rhoi cyfle i arddangos cynnyrch Cymreig o ansawdd uchel wrth helpu disgyblion i ddeall o ble mae eu bwyd yn dod. Ansawdd y gallwch ymddiried ynddo Gall y logo PGI roi gwarant o’r tarddiad Cymreig hwn, gan sicrhau bod yr ŵyn a’r gwartheg wedi’u geni a’u magu yng Nghymru a’u prosesu trwy gadwyni cyflenwi cymeradwy, o’r fferm i’r fforc. Mae dewis cig coch Cymru yn cefnogi: • Teuluoedd ffermio Cymru

poblogaidd ar y fwydlen a gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth eang o brydau ysgol maethlon. Mae ei hyblygrwydd yn ei wneud yn addas ar gyfer:

Ryseitiau sy’n cyfuno cig â llysiau, codlysiau a grawn

Prydau modern wedi’u hysbrydoli gan fwyd stryd

Prydau wedi’u coginio mewn swp

Ffefrynnau traddodiadol

Dewisiadau amlbwrpas ar gyfer bwydlenni Oherwydd ei hyblygrwydd, gall dewisiadau ar fwydlenni amrywio o ffefrynnau traddodiadol bob dydd i opsiynau mwy cyfoes:

Spaghetti Bolognese Cig Eidion Cymru

Cyri Cig Oen Cymru

Tsili Cig Eidion Cymru

Cawl Cig Oen Cymru

• Cymunedau gwledig • Busnesau bwyd lleol • Cadwyni cyflenwi Cymru

Cysylltu: info@hybucig.cymru

Hybu Cig Cymru (HCC) yw’r sefydliad dan arweiniad y diwydiant sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru.

01970 625050 hybucig.cymru

6

7

Powered by