FFORWM GOFAL CYMRU | MANIFFESTO
10
FFORWM GOFAL CYMRU | MANIFFESTO
11
GWERTH AM ARIAN
ATEBOLRWYDD
Galwn ar Lywodraeth Cymru i gydnabod y gwerth am arian a gyflawnir gan ddarparwyr gofal annibynnol ac annog San Steffan i wrthdroi'r penderfyniad i gynnwys gwasanaethau a gomisiynwyd yn y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol cyflogwyr. Mae mwyafrif y sefydliadau gofal yng Nghymru'n fentrau bach a chanolig y mae archwiliad ohonynt wedi profi eu bod yn darparu gwasanaethau diogel, o ansawdd. Maent wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau, yn cyfrannu at yr economi leol, ac yn ychwanegu gwerth cymdeithasol drwy eu gwaith. Mae angen elw rhesymol ar ddarparwyr er mwyn gallu ailfuddsoddi, cynnal cronfeydd wrth gefn, a rheoli risgiau ariannol, yn enwedig mewn sector lle mae mwyafrif y gwariant yn cynnwys costau staffio. Nid yw'r modelau ffioedd presennol yn gynaliadwy, ac mae mwy o gartrefi gofal yn cau na rhai newydd yn agor. Mae hyn yn effeithio ar ddarparwyr nid-er-elw cymaint ag y mae ar rai preifat.
Mae gofal annibynnol yn aml yn fwy effeithiol o ran cost na darpariaeth gyhoeddus gyda rhai cynghorau fel Cyngor Sir Abertawe yn codi'n sylweddol fwy am ddarpariaeth fewnol nag y mae'n ei dalu i ddarparwyr a gomisiynwyd, gan gostio cannoedd ar filoedd o bunnoedd yn fwy bob blwyddyn i'r trethdalwr. Mae cartrefi gofal hefyd yn darparu gofal nyrsio am gost is ac mewn lleoliadau mwy priodol nag ysbytai. Hebddynt, byddai'r gwasanaeth iechyd yn cael trafferth ateb y galw. Mae cyflwyno cyfraddau archwilio cyhoeddus yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth bod modd i gartrefi gofal gael eu beirniadu yn erbyn yr yn a gomisiynwyd. Galwn ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gynnwys 'gwerth am arian' yn y meini prawf asesu ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru ac adlewyrchu perfformiad yn erbyn yr hyn a gomisiynwyd. Rydym yn barod i weithio â'r llywodraeth i greu system ofal deg a chynaliadwy sy'n darparu ansawdd a gwerth i bobl Cymru.
Mewn gwlad sydd yr un faint â Manceinion, nid yw hi'n effeithlon nac yn deg cael 22 gwahanol ddull o weithredu deddfwriaeth gofal cymdeithasol. Ni ddylai amrywiaeth leol ddod ar draul cysondeb neu hawliau dinasyddion bregus. Galwn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu dwyn yn atebol am eu penderfyniadau a bod lleisiau pobl sy'n derbyn gofal yn
Mae angen model ffi genedlaethol arnom ar frys. Mae'r dystiolaeth yn glir ac mae ymgynghoriad wedi ei gynnal. Yr hyn sydd ei angen nawr yw gweithredu a gorfodaeth. Rhaid i gyllid a fwriadwyd ar gyfer y sector, fel cymorth ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol, gyrraedd darparwyr. Yn rhy aml, mae'n cael ei lyncu gan gyllidebau cyffredinol. Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid gofal a sicrhau ei fod yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen, gan leihau'r perygl o ddarparwyr yn gorfod cau a tharfu ar wasanaethau. Dewch i ni weithio gyda'n gilydd i greu system deg, tryloyw ac atebol sy'n rhoi pobl yn gyntaf.
cael eu cynrychioli'n briodol. Pan mae cynghorau'n gweithio
mewn partneriaeth â darparwyr, mae perthnasoedd yn gryfach a ffioedd yn fwy realistig. Mae pwysau cyllidebol yn rhai go iawn, ond mae'r amrywiad mewn cyllid ledled Cymru'n dangos bod gofal hefyd yn fater o flaenoriaethau ac ymddiriedaeth leol. Yn rhy aml, caiff canllawiau fel y Fframwaith Comisiynu Cenedlaethol a Gadewch inni Gytuno i Gytuno eu hanwybyddu. Mae rhai cynghorau'n cyflwyno contractau a ffioedd heb ymgysylltiad, gan ddibynnu ar honiadau amwys o wahaniaeth lleol tra bod lleisiau pobl hŷn mewn cartrefi gofal yn cael eu diystyru.
Powered by FlippingBook