FFORWM GOFAL CYMRU | MANIFFESTO
8
FFORWM GOFAL CYMRU | MANIFFESTO
9
STATWS CYFARTAL I OFAL CYMDEITHASOL
DULL SYNNWYR CYFFREDIN O YMDRIN Â'R AGENDA AILGYDBWYSO
Rydym yn cefnogi galwad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am statws cyfartal rhwng gofal cymdeithasol a'r GIG. Mae hyn yn golygu cydraddoldeb o ran parch, cydnabyddiaeth, a buddsoddiad. Mae ymgyrchoedd fel Gofalwn Cymru yn hanfodol i godi proffil y sector, ond rhaid gwneud mwy i sicrhau bod gweithwyr gofal yn teimlo fel partneriaid cyfartal. Yn rhy aml, mae cyllid gofal cymdeithasol ar ffurf grantiau, yn enwedig ar gyfer modelau ataliol, arloesedd ac i gefnogi'r agenda ailgydbwyso. Nid yw cyllid sy'n seiliedig ar grantiau yn gynaliadwy. Nid yw'n diwallu difrifoldeb neu raddfa'r her. Galwn ar Lywodraeth Cymru i symud tu hwnt i'r rhethreg ac ymrwymo i gyfran decach o gyllid i'r sector gofal cymdeithasol, wedi'i darparu drwy gyllid craidd fel bod modd i awdurdodau lleol gomisiynu gwasanaethau gofal rheoledig sy'n cefnogi pobl yn y gymuned ac yn galluogi'r GIG i ganolbwyntio ar ofal clinigol.
Mae gofal cymdeithasol yn hanfodol i'r system iechyd. Yn ôl geiriau cyn Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, dyma'r sgaffaldiau sy'n cynnal y GIG. Mae'n atal arosiadau diangen yn yr ysbyty, yn cefnogi annibyniaeth, ac yn sicrhau gwell canlyniadau i unigolion a chymunedau. Mae rhyngddibyniaeth ddofn rhwng gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd. Pan nad yw'r sector gofal cymdeithasol yn cael ei dan-ariannu, mae'r gwelyau yn yr ysbytai'n cael eu llenwi gan bobl a fyddai'n cael eu cefnogi'n well yn y gymuned. Mae hyn yn arwain at waeth canlyniadau ac amseroedd aros hirach i'r unigolion hynny ag anghenion clinigol. Er gwaethaf tystiolaeth glir bod buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn lleddfu pwysau ar y GIG, mae anghysondeb o ran cyllid yn dal i fod. Mae byrddau iechyd yn aml yn tan-asesu anghenion neu'n tan-ariannu darparwyr, gan drosglwyddo'r costau ar ysgwyddau unigolion neu awdurdodau lleol a chyfrannu at ohirio rhyddhau cleifion o'r ysbyty.
Bwriad yr agenda ailgydbwyso oedd atgyfnerthu ac amrywio'r ddarpariaeth gofal, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a lleihau dibyniaeth ar unrhyw ddarparwr unigol. Ei nod oedd cefnogi modelau sy'n cyflawni gwerth cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ychwanegol. Fodd bynnag, yn ymarferol, mae'n peri'r risg o greu ansefydlogrwydd. Mewn rhai ardaloedd, mae cyrff cyhoeddus yn defnyddio eu rheolaeth dros gyllid a lleoliadau i gystadlu'n uniongyrchol â darparwyr annibynnol. Yn aml, mae hyn yn arwain at gostau uwch a llai o atgyfeiriadau i ddarparwyr bychain, y mae llawer ohonynt yn rhai teuluol ac yn gweithredu ar golled. Yn hytrach na chefnogi economi gymysg, gall y dull hwn wthio darparwyr allan o'r farchnad a lleihau dewis i ddinasyddion am gost uwch.
Dylai ailgydbwyso fod ar sail cydweithio yn hytrach na disodli. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru'n cael eu cymell gan ofal, nid elw, ac yn haeddu cael eu trin yn deg. Rhaid defnyddio buddsoddiad cyhoeddus i ddatblygu capasiti ar draws y sector, yn hytrach na chreu monopolïau neu roi darparwyr egwyddorol dan anfantais. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol weithio â darparwyr i greu system ofal amrywiol a sefydlog. Mae hyn yn cynnwys cyllid teg, comisiynu tryloyw, a safonau gweithlu cyson. Mae negeseuon cymysg ynghylch rheoliad a hyrwyddo rolau sydd heb eu rheoleiddio fel micro ofalwyr yn berygl o greu system dwy haen sy'n tanseilio hyder a diogelwch y cyhoedd. Dewch i ni ailgydbwyso gofal â synnwyr cyffredin, diben cyffredin a pharch o'r ddwy ochr.
Powered by FlippingBook