FFORWM GOFAL CYMRU | MANIFFESTO
6
FFORWM GOFAL CYMRU | MANIFFESTO
7
CYFLAWNI AR Y CYFLOG BYW GWIRIONEDDOL
SORTIO'R FISA
Mae'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru'n ddibynnol ar weithwyr rhyngwladol oherwydd heriau parhaus yn lleol o ran recriwtio. Rydym yn gwrthod honiad y cyn Ysgrifennydd Gwladol bod gweithwyr gofal yn brin o sgiliau. Mae'r gwaith hwn yn gofyn am arbenigedd a thosturi, rhinweddau nad oes modd eu haddysgu na dod ar eu traws yn gyffredinol. Mae staff rhyngwladol yn gyson o ran arddangos ethos gofalu cryf ac maent yn rhan werthfawr o'n gweithlu. Nid yw cyflogwyr yn recriwtio'n rhyngwladol er mwyn arbed arian. Maent yn buddsoddi adnoddau sylweddol yn y broses a nawr mae gofyn iddynt dalu mwy i staff rhyngwladol na'r RLW a addawyd i weithwyr domestig. Maent yn gwneud hynny oherwydd bod gan yr unigolion hyn y gwerthoedd a'r sgiliau priodol, ac oherwydd nad oes digon o weithwyr lleol i ateb y galw. Mae Cymru'n wynebu her ddemograffig, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a phoblogaeth oed gweithio sy'n lleihau. Mae'r sefyllfa o ran prinder gweithwyr gofal yn fwy difrifol fyth mewn ardaloedd gwledig. Mae newidiadau diweddar mewn polisi, gan gynnwys cyfyngiadau ar ddibynyddion ac amodau recriwtio llymach, wedi arwain at ostyngiad cyflym
Ein gweithlu yw ein cryfder mwyaf. Mae gweithwyr gofal yn fedrus, yn dosturiol ac yn hanfodol i lesiant ein cymunedau. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol (RLW) yn gam hanfodol tuag at gydnabod eu gwerth, ond mae'n rhaid iddo gael ei ariannu'n briodol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Croesawom ymrwymiad Llywodraeth Cymru at y Cyflog Byw Gwirioneddol, ond rydym wedi bod yn galw er amser maith am ffordd well o asesu a darparu cyllid ledled Cymru. Mae rhai awdurdodau lleol a byrddau iechyd "yn cynnwys" RLW mewn codiadau ffioedd ond nid yw hynny'n golygu unrhyw beth oni bai bod cyfanswm y ffi yn bodloni'r costau gweithredu llawn. Heb fecanwaith cyllid clir a chyson, bydd yr addewid o dâl teg yn parhau i fethu â chyrraedd y lefel dderbyniol.
Mae gweithwyr gofal yn haeddu mwy na chlod. Maen nhw angen tâl ac amodau sy'n adlewyrchu eu cyfrifoldeb a'u proffesiynoldeb. Hyd nes y bydd cyllid yn cefnogi hyn, bydd recriwtio a chadw'n parhau i ddioddef. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru a chomisiynwyr weithio gyda ni ar frys i ddatrys y broblem hon. Drwy bennu'r cyllid angenrheidiol a sicrhau ei fod yn cyrraedd y rheng flaen, gallwn droi'r egwyddor o waith teg yn realiti cyffredin. Dewch i ni wneud Cyflog Byw Gwirioneddol yn llwyddiant i weithwyr gofal, darparwyr a'r bobl a gefnogir ganddynt.
mewn ceisiadau rhyngwladol. Mae'r ffaith bod y llwybr fisa ynghau wedi gwaethygu'r duedd hon ac mae perygl i'r staff presennol gael eu dychryn i ffwrdd gan y neges gynyddol negyddol o San Steffan. Dylem ddathlu cyfraniadau gweithwyr gofal rhyngwladol, yn enwedig eu hymroddiad yn ystod y pandemig. Ni ddylai pryderon am gaethwasiaeth fodern a mudo anghyfreithlon gael eu cyfuno â recriwtio cyfreithlon. Rhaid i Lywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb am atal camdriniaeth o'r system heb gosbi darparwyr egwyddorol a'r bobl sy'n dibynnu ar eu gwasanaethau. Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban drwy gymryd yr awenau o ran cefnogi'r fisa rhyngwladol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yn uniongyrchol er mwyn ategu proses recriwtio egwyddorol a helpu i fynd i'r afael â'r prinder gweithlu. Galwn hefyd am oruchwyliaeth well o arferion comisiynu'r sector preifat. Gall modelau a gymhellir gan gostau alluogi sefydliadau dibrofiad neu ddiegwyddor i dreiddio i'r farchnad, gan danseilio ansawdd a diogelwch.
Powered by FlippingBook