Fforwm Gofal Cymru Maniffesto 2026

FFORWM GOFAL CYMRU | MANIFFESTO

4

FFORWM GOFAL CYMRU | MANIFFESTO

5

GWIR BARTNERIAETH

GOFAL TEG I BAWB

Nid slogan yw Partneriaeth – dyma sut rydym yn darparu gwell gofal. Mae Fforwm Gofal Cymru o'r farn bod gofal integredig ond yn gweithio pan mae pob llais yn cael ei werthfawrogi. Mae modd cyflawni gwasanaeth gofal gwirioneddol integredig drwy: • Gydnabod a pharchu'r gwerth a roddir gan bob parti ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol i fywydau'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. • Cefnogi pob parti a'u trin nhw'n deg. • Cael gwared ar derfynau ffug i weithio'n gydweithredol, megis drwy wneud rhagdybiaethau ynghylch yr hyn mae

gwahanol bartneriaid yn gallu neu ddim yn gallu ei gynnig i fodelau newydd. • Cynnig cyfleoedd cyfartal i gael mynediad at gyllid, gan rannu'r risg a'r atebolrwydd. • Galluogi i her gael ei chyflawni'n ddiogel. • Gwneud penderfyniadau mewn ffordd gydweithredol a thryloyw. Yn bennaf oll, rhaid i bartneriaeth fodloni anghenion a hawliau dinasyddion Cymru yn hytrach nag unrhyw ideoleg unigol. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn droi geiriau'n weithred.

Mae pob unigolyn yng Nghymru yn haeddu'r un safon o ofal a'r un hawl i ddewis pwy sy'n ei ddarparu. Ac eto, mae cyllid yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar le mae rhywun yn byw, gan greu anghydraddoldeb sy'n tanseilio urddas a dewis. Gofynnwn i bartneriaid weithio gyda ni er mwyn newid hyn. Mae anghysondebau enfawr o ran cyllid ar draws y sbectrwm cyfan o ofal, ond mae gofal preswyl a nyrsio pobl hŷn yn cynnig man dechrau clir ar gyfer diwygiad. Gallai methodoleg ffi genedlaethol nodi'r costau gofal gwirioneddol, gan leihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae anghyfartaledd o dros £10,000 y person y flwyddyn yn bodoli rhwng awdurdodau lleol. Mae cyllid y byrddau iechyd yr un mor anghyson. Mae rhai cyfraddau Gofal Iechyd Parhaus [CHC] yn is na Gofal Nyrsio a Ariennir [FNC], er gwaethaf anghenion uwch. Mae lleiafrif y byrddau iechyd yn tan- asesu pobl yn rheolaidd fel rhai sydd angen FNC yn hytrach na CHC, sy'n peryglu diogelwch ac yn gwarafun eu hawl i ofal iechyd am ddim. Rhaid mynd i'r afael â hyn. Dylai gofal fod yn seiliedig ar anghenion, hawliau a dewisiadau – yn hytrach na chod post neu wleidyddiaeth. Mae gan gomisiynwyr y disgresiwn i flaenoriaethu

gofal. Gofynnwn iddynt ei ddefnyddio'n ddoeth. Mae diffyg methodoleg ffi genedlaethol wedi creu system lle mae rhai pobl yng Nghymru, a'u teuluoedd, yn talu ddwywaith i bob pwrpas. Oherwydd y cyfraddau anghyfartal a osodir gan awdurdodau lleol, mae llawer o ddarparwyr gofal yn methu â thalu eu costau ac yn cael eu gorfodi i geisio ffioedd atodol trydydd parti. Ym marn Fforwm Gofal Cymru, mae hyn yn dreth ar ofal y mae rhai pobl yn ei hwynebu'n syml oherwydd lle maen nhw'n byw. Mae Cymru angen dull tryloyw a chyson o ariannu gofal. Mae'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn gam mawr ymlaen ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno methodoleg ffi genedlaethol yn hytrach nag ymgynghori ar yr angen am un. Mae pecynnau cymorth fel "Gadewch inni Gytuno i Gytuno" eisoes mewn bodolaeth. Dewch i ni eu poblogi nhw â data cyson a chreu sector mwy teg a chynaliadwy gyda'n gilydd. Credwn fod hwn yn gyfle hollbwysig i lunio system ofal fwy teg a chynaliadwy. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn symleiddio'r broses o bennu ffioedd, atgyfnerthu ffydd rhwng darparwyr a chomisiynwyr, a sicrhau bod cyllid yn adlewyrchu gwerth gwirioneddol pob unigolyn yn ein gofal.

Powered by